Ann Radcliffe
Ann Radcliffe | |
---|---|
Portread o Ann Radcliffe. | |
Ganwyd | 9 Gorffennaf 1764 Holborn |
Bedyddiwyd | 5 Awst 1764 |
Bu farw | 7 Chwefror 1823 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr |
Arddull | llenyddiaeth Gothig, nofel Gothig |
Tad | William Ward |
Mam | Ann Oates |
Priod | William Radcliffe |
Llenor Seisnig oedd Ann Radcliffe (Ann Ward; 9 Gorffennaf 1764 – 7 Chwefror 1823) sydd yn nodedig am ei nofelau Gothig.
Ganed Ann Ward yn Holborn, Llundain, i deulu digon cefnog. Priododd Ann â'r newyddiadurwr William Radcliffe ym 1787.
Cyhoeddwyd ei dwy nofel gyntaf, The Castles of Athlin and Dunbayne (1789) ac A Sicilian Romance (1790), yn ddienw. Daeth yn enwog am ei thrydedd nofel, The Romance of the Forest (1791), a leolir yn Ffrainc yn yr 17g, ac yn sgil derbyniad ei nofel nesaf, The Mysteries of Udolpho (1794), hi oedd y nofelydd mwyaf poblogaidd yn Lloegr. Ystyrir The Mysteries of Udolpho a The Italian (1797), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei hoes, ymhlith yr enghreifftiau gwychaf o'r nofel Gothig.
Teithiodd Radcliffe i'r cyfandir unwaith yn unig, i'r Iseldiroedd a'r Almaen ym 1794. Ysgrifennodd y gyfrol A Journey Made in the Summer of 1794 (1795) am ei thaith. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei hoes yn cyfansoddi barddoniaeth, yn bennaf. Bu farw Ann Radcliffe yn Llundain yn 58 oed. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd y nofel Gaston de Blondeville (1826).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ann Radcliffe. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2021.
- Beirdd Seisnig y 19eg ganrif
- Beirdd Seisnig yn yr iaith Saesneg
- Genedigaethau 1764
- Llenorion benywaidd Seisnig y 18fed ganrif
- Llenorion benywaidd Seisnig y 19eg ganrif
- Marwolaethau 1823
- Nofelwyr Seisnig y 18fed ganrif
- Nofelwyr Seisnig y 19eg ganrif
- Nofelwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg
- Pobl a aned yn Llundain
- Pobl fu farw yn Llundain